Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak

This statement will be updated daily at midday

Statement: Updated at 12pm on Thursday 21 January 2021

Dr Eleri Davies, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response at Public Health Wales, said:

“While there has been a reduction in the numbers of positive Coronavirus cases in several parts of Wales, this data needs to be verified over several days before we can be sure that it is showing an established downward trend.

“Despite this, the number of cases remains extremely high in Wales and is cause for serious concern, due to the impact on NHS Wales services and the prevalence of the new, more infectious variant.

“In order to avoid adding to the current severe pressure on hospitals, it is extremely important that everyone continues to remain vigilant, by staying at home and sticking to the rules.

“All of Wales remains in lockdown. We ask that the public adopts the same mindset for this lockdown as they did in March 2020. We understand that people are fatigued but because the new, more infectious variant of coronavirus is circulating across Wales it is vital that we all keep to the lockdown restrictions and do not meet other people.

“This means that you must stay at home. If exercising outdoors, please do this alone or with members of your household or support bubble only. Shop online, but if you do need to visit essential retail then do this alone, if possible, to minimise numbers of people in retail spaces, and avoid stopping to chat with people outside your household. If you must leave home keep your distance, wash your hands regularly, and wear a face mask when required according to the regulations.

“Public Health Wales urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to protect everyone in our communities, including the most vulnerable.  

“Public Health Wales is working with UK partners to investigate and respond to the new variant of coronavirus identified in Wales. The new variant is easier to spread and the public should remain highly vigilant in measures to prevent transmission including maintaining social distancing, regularly handwashing and wearing of face coverings. Though the new variant is more infectious, there is no evidence that it leads to more severe disease.

“UK nationals returning home from travel abroad must provide evidence of a negative COVID-19 test result taken up to 3 days before departure.

“Under current UK COVID-19 restrictions, you must stay at home. You must not leave home or travel, including internationally, unless you have a legally permitted reason to do so.

“If you are due to travel out of the UK, please be aware of the changing situation and keep an eye on the FCO website for up to date details. 

Public Health Wales is working closely with the Welsh Government as they deploy Coronavirus vaccinations through local health boards. Welsh Government is leading on the deployment of the vaccine in Wales.

“Vaccinating the adult population of Wales, to protect people from severe disease, is a significant task, and the vaccine will take time to reach everyone. The effects of the vaccines may not be seen nationally for some time, and we must continue to follow the advice on keeping Wales safe. 

“Members of the public should not phone your GP, pharmacy or hospital asking when they will get a vaccine. When someone is in one of the groups eligible for the vaccine, they will be invited to attend a dedicated clinic which will have been set up to ensure patient safety and that of the healthcare professionals.

If you or a member of your household develop a cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate immediately and book a free Coronavirus test, either by calling 119 or by clicking here.

Datganiad: Diweddarwyd 12yh Dydd Iau 21 Ionawr 2021

Dywedodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er y bu gostyngiad yn nifer yr achosion positif o Coronafeirws mewn sawl rhan o Gymru, mae angen gwirio’r data hyn dros sawl diwrnod cyn y gallwn fod yn sicr bod y data'n dangos tuedd sefydledig ar i lawr..

“Er gwaethaf hyn, mae nifer yr achosion yn parhau i fod yn uchel iawn yng Nghymru ac yn destun pryder difrifol, oherwydd yr effaith ar wasanaethau GIG Cymru a nifer achosion yr amrywiolyn newydd, mwy heintus.

“Er mwyn osgoi ychwanegu at y pwysau difrifol presennol ar ysbytai, mae’n hynod bwysig bod pawb yn parhau i fod yn wyliadwrus, trwy aros gartref a glynu wrth y rheolau.

“Mae'r cyfyngiadau symud yn parhau trwy Gymru gyfan. Gofynnwn i’r cyhoedd fabwysiadu’r un meddylfryd ar gyfer y cyfyngiadau symud cyfredol ag y gwnaethant ym mis Mawrth 2020. Deallwn fod pobl wedi cael digon ond, oherwydd bod amrywiolyn newydd, mwy heintus o’r Coronafeirws yn mynd ar led ar draws Cymru, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn glynu wrth y cyfyngiadau symud ac nad ydym yn cwrdd â phobl eraill.

“Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi aros gartref. Os byddwch yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, gwnewch hyn ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth yn unig. Dylech siopa ar-lein, ond os oes angen i chi ymweld â mannau manwerthu hanfodol, gwnewch hyn ar eich pen eich hun os yn bosibl, er mwyn lleihau nifer y bobl mewn mannau manwerthu, ac osgowch stopio i siarad â phobl y tu allan i’ch aelwyd. Os oes rhaid i chi adael eich cartref, cadwch eich pellter, golchwch eich dwylo’n rheolaidd a gwisgwch fasg wyneb pan fo angen, yn unol â’r rheoliadau.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn y rheolau, i osgoi trosglwyddo Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.  

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchwilio ac i ymateb i’r amrywiolyn newydd o Coronafeirws a nodwyd yng Nghymru. Mae’r amrywiolyn newydd yn lledaenu’n haws a dylai’r cyhoedd lynu wrth y mesurau’n ofalus er mwyn atal trosglwyddiad, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb. Er bod yr amrywiolyn newydd yn fwy heintus, nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn arwain at afiechyd mwy difrifol.

“Rhaid i wladolion y DU sy’n dychwelyd adref o deithio dramor ddarparu tystiolaeth o ganlyniad prawf COVID-19 negatif a gymerwyd hyd at 3 diwrnod cyn gadael.

“O dan gyfyngiadau cyfredol COVID-19 y DU, rhaid i chi aros gartref. Rhaid i chi beidio â gadael eich cartref na theithio, gan gynnwys yn rhyngwladol, oni bai bod gennych reswm a ganiateir yn gyfreithiol i wneud hynny.

“Os ydych i fod i deithio y tu allan i’r DU, byddwch yn ymwybodol o’r sefyllfa sy’n newid a chadwch lygad ar wefan Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y manylion diweddaraf. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddarparu brechiadau Coronafeirws drwy’r byrddau iechyd lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o ddarparu’r brechlyn yng Nghymru.

“Mae brechu oedolion Cymru er mwyn amddiffyn pobl rhag afiechyd difrifol yn dasg sylweddol a bydd yn cymryd amser i frechu pawb. Efallai na fydd effeithiau’r brechlynnau i’w gweld yn genedlaethol am beth amser, a rhaid i ni barhau i ddilyn y cyngor ar gadw Cymru’n ddiogel. 

“Ni ddylai aelodau’r cyhoedd ffonio eu meddyg teulu, fferyllfa nag ysbyty yn gofyn pryd fyddant yn cael brechlyn. Pan fydd rhywun yn un o'r grwpiau sy'n gymwys i gael y brechlyn, fe'u gwahoddir i fynd i glinig pwrpasol a fydd wedi'i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

“Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim naill ai drwy ffonio 119 neu drwy glicio yma.